barmouth communities first

Cymunedau’n Gyntaf Abermaw

attention open in a new window PDFArgraffuEbost

LAST_UPDATED2

Cymunedau’n Gyntaf Abermaw: ydym yn rhan o rwydwaith o Bartneriaethau ar draws Cymru, sy’n  brwydro yn erbyntlodi ac eithrio cymdeithasol yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o Gymru.  >Cafodd y rhwydwaith ei dyfeisio a’i hariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Beth ydym yn ei wneud: ‘Rydym yn gweithio yn y gymuned i helpu pobl i wireddu eu huchelgais yn eu hardaloedd. ‘Rydym yn gosod yr agenda, yn trefnu’r blaenoriaethau ac yn darparu’r  canlyniadau.  Rydym yn rhoi cefnogaeth, cyfarwyddyd, arian  a hyfforddiant  i roi sgiliau maent eu hangen i bobl,  iddynt wireddu eu potensial ac ennill gwybodaeth werthfawr yn y broses.  Edrychwch ar y wefan, yn enwedig ar safleoedd y grwpiau,  i chi gael gweld beth mae pobl Abermaw wedi llwyddo i’w wneud.
Rhaid i ni edrych ymlaen ac  newid  pwyslais at creadigaeth menterau a wasanaethau gynaliadwy efo goruchwyliaeth lleol.

Sut rydym yn gwneud hyn: Mae gennym Bartneriaeth Cymunedau’n Gyntaf sy’n cynnwys 1/3 o bobl o’r sector gwirfoddol, 1/3 o’r  awdurdodau statudol  a 1/3 o’r gymuned leol a phobl fusnes.  Maent yn cyfarfod ar yr ail ddydd Mawrth o’r mis. Yno ceir adroddiadau a  thrafodaethau ac mae siaradwyr yn rhoi cyflwyniadau. Mae tasgau yn cael eu nodi i’w gweithredu yn ystod y mis nesaf.  Mae hyn i gyd yn swnio’n ddifrifol iawn ond mae llawer o hwyl, llawer o waith  a llawer o lwyddiant. ‘Rydym yn gwerthfawrogi’r amser mae pobl yn ei roi ac yn ceisio sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau o’r adnodd pwysig hwnnw.

 

Grymuso:

Drwy wella eich sgiliau byddwch yn gallu dylanwadu ar sut mae’r gymuned yn datblygu.
Mae eich helpu chi yn helpu pawb. Mae’r Bartneriaeth yn cynnwys pobl gyda llawer o sgiliau a diddordebau gwahanol fel bod pob agwedd o’r gymuned yn cael sylw --wel ---gobeithio -ond efallai y medrech CHI ychwanegu at hyn - galwch heibio’r swyddfa yn Ffordd yr Orsaf neu dewch i ambell gyfarfod i chi gael blas o’r hyn sy’n digwydd.

 

Be fydrwch chi wneud  

Cysylltwch  ar lein cymuned ar wefan hon ac rhoi eu sylwadau, cymerwch rhan  mewn trafodaethau, dewch i'r cyfarfodau Partneriaeth ac clywch be sy yn digwydd. Os ganddoch diddordeb, datblygiad y  dref, neu os ydych yn aelod grŵp lleol (neu aelod o  'r grŵp newydd) fedrwch siarad efo ni o amgylch ymuno yn Partneriaeth, mi fyddwch chi’n galluogi siarad ậ pleidlais.  Dan ni'n cadw cydbwyso rhwng tair sectorau Statudol ( Tan /Heddlu/ Iechyd/ Cyngor ac ati) Gwirfoddol ậ Busnes (Cwmni lleol / grwpiau Cenedlaethol & Elusen)  ậ  Cymunedol ( grwpiau lleol e.e. Peldroed, Partneriaeth Gofal Plant, Gwarchod ac ati)

 

Rhai o’r Grwpiau sydd wedi cael cymorth yw: Batala Bermo Band Samba,

Grwp Cadwraeth Amgylcheddol Abermaw, Partneriaeth Gofal Plant Abermaw,

Abermaw, Theatr y Ddraig,  Clwb Rhwyfo Abermaw a llawer mwy.



Dyma'r link tua 'r wefan canolog Cymuneadau 'n Gyntaf http://www.communitiesfirst.info/